Search website
Libraries Header

Croeso i Lyfrgelloedd Conwy! Dewch i ddarllen mwy am ein catalog ar-lein, ein llyfrgell ddigidol a pha lyfrau rydym yn eu hargymell.

Darganfod mwy about Archwilio

YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS GWASANAETH LLYFRGELLOEDD CONWY

Dweud eich dweud am oriau agor llyfrgelloedd. Rhwng 16 Chwefror a 2 Ebrill, byddwn yn gofyn am eich barn am newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd.

Ymgynghoriad Cyhoeddus Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn ...

Pori

Mynediad at gatalogau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru o'ch dyfais.

Llyfrau

Os yw’n well gennych ddarllen llyfrau ar eich dyfais eich hun, gallwch gael mynediad at ddewis anferthol o e-Lyfrau, i’w darllen ar eich soffa gyfforddus. Lawr lwythwch yr apiau am ddim, BorrowBox neu Libby a gwnewch gais am lyfr.,

Llyfrau Llafar

Ydych chi’n hoffi gwrando ar lyfrau llafar wrth fynd? Os yw’n well gennych wrando wrth yrru, gwneud gwaith tŷ neu ymlacio yn yr ardd, mae gennym ystod eang o e-Lyfrau Llafar ar gael.

Papurau Newydd a Chylchgronau

Nid dim ond llyfrau sydd gennym! Mae gennym lawer o paperau newydd, gylchgronau, nofelau graffig a chomics y gallwch eu darllen drwy lawr lwytho ein ap Libby am ddim.

Adnoddau Ar-lein

Ydych chi’n gwneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiect neu angen help gyda’ch gwaith cartref? Mae gennym adnoddau defnyddiol ar-lein i’ch helpu. Mae’r holl adnoddau hyn ar gael yn eich llyfrgell leol a rhai ohonynt o gartref.

Beth mae llyfrgelloedd yn wneud i ni? Wel, maen nhw’n cyflwyno llawer i fyd llenyddiaeth a dysg ac yn helpu ei wneud yn arferiad oes; maen nhw’n cydraddoli; maen nhw’n dysgu empathi ac yn ein helpu i ddysgu am y naill a’r llall; maen nhw’n cadw ein treftadaeth ddiwylliannol; maen nhw’n amddiffyn ein hawl i wybod a dysgu; maen nhw’n adeiladu cymunedau; maen nhw’n ein cryfhau a’n gwella fel cenedl; maen nhw’n ein grymuso fel unigolion.
Malorie Blackman, OBE. Writer and former Children’s Laureate (2013-2015)